We've detected that Javascript is not enabled. It is required for an optimal survey taking experience. Please check your browser's settings and make sure Javascript is turned on. Learn how to enable Javascript.
Mae’r Gronfa Arloesi Digidol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru yn bartneriaeth strategol newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Nesta.
Lluniwyd y Gronfa i helpu sefydliadau’r celfyddydau i ddefnyddio technoleg ddigidol i gynyddu eu cyrhaeddiad at gynulleidfa a datblygu modelau busnes newydd.
Rhan o’r hyn a gynigwn i sefydliadau’r celfyddydau yw cymorth i’w paru â darparwyr technoleg ddigidol, asiantaethau a sefydliadau eraill a allai eu helpu i greu atebion newydd i rai o’r heriau sy’n eu hwynebu.
Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r rhestr mwyaf cynhwysfawr o bartneriaid posibl, rydym yn creu cronfa ddata o gwmnïau technoleg.
Os hoffech inni drosglwyddo eich manylion i ymgeiswyr posibl i’r gronfa, neu sefydliadau eraill y celfyddydau sy’n dymuno ymgymryd â phrosiectau digidol y tu allan i’r gronfa, rhowch wybod inni drwy lenwi’r ffurflen ganlynol.Nodyn ynglŷn â phreifatrwydd – oni nodir yn wahanol uchod, ni fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon ac ni fyddwn byth yn ei werthu.
Dwedwch ychydig wrthym amdanoch eich hun.
Rydym yn awyddus i gydweithio â chwmnïau sy’n dilyn proses ddylunio iterus glir gyda’u cleientiaid. A allwch ddweud ychydig wrthym am eich proses? (dim mwy na 200 gair)
Ym mha feysydd ydych yn arbenigo (ticiwch bob un sy’n berthnasol)?
Mae’r rhestr hon yn cynrychioli’r pethau y disgwyliwn i bobl holi amdanynt gan amlaf. Ond rydym yn awyddus iawn i glywed am amrywiaeth eang o arbenigeddau digidol, felly mae croeso ichi ychwanegu unrhyw rai eraill yn y blwch arall.